RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
7Adolygu a diwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
(1)
Rhaid i Weinidogion Cymru adolygu Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru yn barhaus.
(2)
O ran Gweinidogion Cymru—
(a)
rhaid iddynt wneud unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru y maent yn ystyried ei fod yn ofynnol er mwyn sicrhau bod y Cynllun yn parhau i nodi’r manylion allweddol y cyfeirir atynt yn adran 5(2);
(b)
cânt wneud unrhyw ddiwygiad arall i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru y maent yn ystyried ei fod yn briodol.
(3)
Ond nid yw is-adran (2)(a) yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddiwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru er mwyn adlewyrchu unrhyw gamau a gymerir mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol a fyddai (oni bai am yr is-adran hon) yn gwneud diwygio’r Cynllun yn ofynnol, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried na fydd y cyfnod y bydd y camau hynny’n cael effaith yn fwy na 14 o ddiwrnodau.
(4)
Wrth ystyried a ddylid diwygio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru a natur unrhyw ddiwygiad, rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i bob un o’r canlynol—
(a)
Strategaeth Drafnidiaeth Cymru;
(b)
os ydynt yn ystyried y gallai’r diwygiad arfaethedig effeithio ar unrhyw ran o ardal cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, cynllun trafnidiaeth rhanbarthol y pwyllgor hwnnw sy’n cael effaith o dan adran 109A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38);
(c)
swyddogaethau awdurdodau lleol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2).
(5)
Ar ôl gwneud unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru diwygiedig.
(6)
Os yw Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw ddiwygiad i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru ar ôl y dyddiad diweddaraf y’i gosodwyd gerbron Senedd Cymru (naill ai o dan yr adran hon neu o dan adran 6) rhaid iddynt, o fewn y cyfnod o 13 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y gosodwyd y Cynllun gerbron Senedd Cymru yn fwyaf diweddar, osod gerbron Senedd Cymru—
(a)
copi pellach o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, a
(b)
datganiad sy’n nodi’r gwahaniaethau rhwng y copi pellach hwnnw o’r Cynllun, a’r copi blaenorol o’r Cynllun a osodwyd gerbron Senedd Cymru.
(7)
Mae adran 8 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch diwygiadau i Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru.