RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Rhagolygol

Cynllun Rhwydwaith Bysiau CymruLL+C

6Llunio Cynllun Rhwydwaith Bysiau CymruLL+C

(1)Cyn cyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru o dan adran 5(1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru lunio drafft o’r Cynllun.

(2)Wrth lunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru geisio barn pob awdurdod lleol.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, wrth lunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, roi sylw i bob un o’r canlynol—

(a)Strategaeth Drafnidiaeth Cymru;

(b)pob cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy’n cael effaith o dan adran 109A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38);

(c)swyddogaethau awdurdodau lleol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2)

(4)Ar ôl llunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn cyhoeddi’r Cynllun, ymgynghori â phob un o’r personau a ganlyn ar y drafft—

(a)pob awdurdod lleol;

(b)pob cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);

(c)yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer pob Parc Cenedlaethol yng Nghymru;

(d)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;

(e)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau cyflogeion gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;

(f)unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, neu sy’n debygol o ddefnyddio’r gwasanaethau hynny, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;

(g)unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

(5)Ar ôl ymgynghori â’r personau hynny ar y drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun o dan adran 5(1)(b) naill ai yn nhermau’r drafft neu, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gan roi sylw i unrhyw farn a fynegir yn ystod yr ymgynghoriad, mewn termau eraill.

(6)Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru o dan adran 5(1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ei osod gerbron Senedd Cymru.

(7)Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) i lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy ddrafft a lunnir cyn i’r adran hon ddod i rym.

(8)Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (2) i Weinidogion Cymru geisio barn wrth lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy geisio barn cyn i’r adran hon ddod i rym.

(9)Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (4) i ymgynghori ar ddrafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(3)