RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
6Llunio Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru
(1)
Cyn cyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru o dan adran 5(1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru lunio drafft o’r Cynllun.
(2)
Wrth lunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru geisio barn pob awdurdod lleol.
(3)
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd, wrth lunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, roi sylw i bob un o’r canlynol—
(a)
Strategaeth Drafnidiaeth Cymru;
(b)
pob cynllun trafnidiaeth rhanbarthol sy’n cael effaith o dan adran 109A o Ddeddf Trafnidiaeth 2000 (p. 38);
(c)
swyddogaethau awdurdodau lleol o dan Fesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 (mccc 2)
(4)
Ar ôl llunio’r drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru, cyn cyhoeddi’r Cynllun, ymgynghori â phob un o’r personau a ganlyn ar y drafft—
(a)
pob awdurdod lleol;
(b)
pob cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
(c)
yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer pob Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(d)
unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(e)
unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau cyflogeion gweithredwyr gwasanaethau bysiau lleol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(f)
unrhyw bersonau y mae’n ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn cynrychioli buddiannau personau sy’n defnyddio gwasanaethau bysiau lleol, neu sy’n debygol o ddefnyddio’r gwasanaethau hynny, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
(g)
unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)
Ar ôl ymgynghori â’r personau hynny ar y drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi’r Cynllun o dan adran 5(1)(b) naill ai yn nhermau’r drafft neu, os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gan roi sylw i unrhyw farn a fynegir yn ystod yr ymgynghoriad, mewn termau eraill.
(6)
Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cyhoeddi Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru o dan adran 5(1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ei osod gerbron Senedd Cymru.
(7)
Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (1) i lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy ddrafft a lunnir cyn i’r adran hon ddod i rym.
(8)
Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (2) i Weinidogion Cymru geisio barn wrth lunio drafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy geisio barn cyn i’r adran hon ddod i rym.
(9)
Caniateir bodloni’r gofyniad a osodir gan is-adran (4) i ymgynghori ar ddrafft o Gynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru drwy ymgynghoriad a gynhelir cyn i’r adran hon ddod i rym.