RHAN 6LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

CyffredinolLL+C

46Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.LL+C

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, neu o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol;

(b)darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 46 mewn grym ar 3.2.2026, gweler a. 48(1)(k)