RHAN 6AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Cyffredinol

46Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol etc.

(1)

Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion y Ddeddf hon, neu o ganlyniad iddi, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi, cânt drwy reoliadau wneud—

(a)

darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol;

(b)

darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).