RHAN 6AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
44Dehongli cyffredinol
(1)
Yn y Ddeddf hon—
mae “addasu” (“modify”) yn cynnwys diwygio, dirymu neu ddiddymu;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “comisiynydd traffig” (“traffic commissioner”) yw comisiynydd traffig ar gyfer Cymru a Lloegr a benodir o dan adran 4 o Ddeddf 1981;
ystyr “Deddf 1981” (“the 1981 Act”) yw Deddf Cerbydau Cyhoeddus i Deithwyr 1981 (p. 14);
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Trafnidiaeth 1985 (p. 67);
ystyr “gwasanaeth adran 19” (“section 19 service”) yw gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd pan fo pob cerbyd a ddefnyddir yn cael ei ddefnyddio felly o dan drwydded o dan adran 19 o Ddeddf 1985;
mae i “gwasanaeth bysiau cymunedol” yr ystyr a roddir i “community bus service” yn adran 22 o Ddeddf 1985;
ystyr “gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1” (“Part 3 of Schedule 1 service”) yw gwasanaeth ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd pan fo pob cerbyd a ddefnyddir yn cael ei ddefnyddio felly mewn amgylchiadau pan fo’r amodau a nodir yn Rhan 3 o Atodlen 1 i Ddeddf 1981 wedi eu bodloni;
mae i “gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr” yr ystyr a roddir i “public passenger transport services” yn adran 7 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p. 5);
ystyr “hysbysiad” (“notice”) yw hysbysiad ysgrifenedig;
ystyr “penodedig” ac “a bennir” (“specified”) (oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall) yw wedi ei bennu mewn rheoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
ystyr “Strategaeth Drafnidiaeth Cymru” (“Wales Transport Strategy”) yw Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a gyhoeddir o dan adran 2 o Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006 (p. 5);
mae “swyddogaethau” (“functions”) yn cynnwys pwerau a dyletswyddau;
mae i “trwydded bysiau cymunedol” yr ystyr a roddir i “community bus permit” yn adran 22 o Ddeddf 1985;
mae i “trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus” yr un ystyr â “PSV operator’s licence” yn Neddf 1981.
(2)
Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at weithredwr, mewn perthynas â gwasanaeth, yn gyfeiriadau at y person, neu at bob un o’r personau, sy’n darparu’r gwasanaeth; ac mae ymadroddion cysylltiedig (gan gynnwys cyfeiriadau at berson sydd wedi gweithredu gwasanaeth) i’w dehongli yn unol â hynny.
(3)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amgylchiadau pan fo person o ddisgrifiad penodedig i’w drin at ddibenion is-adran (2) fel pe bai’n darparu gwasanaeth neu fel pe na bai’n darparu gwasanaeth.