RHAN 6LL+CAMRYWIOL A CHYFFREDINOL

CyffredinolLL+C

43Rhoi hysbysiadau etc.LL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth yn y Ddeddf hon neu mewn rheoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i berson neu’n awdurdodi person i—

(a)hysbysu person arall am rywbeth, neu

(b)rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno” neu “rhoi” neu unrhyw derm arall).

(2)Caniateir rhoi’r hysbysiad neu’r ddogfen arall i’r person o dan sylw mewn unrhyw un neu ragor o’r ffyrdd a ganlyn—

(a)drwy ei roi neu ei rhoi i’r person â llaw;

(b)drwy ei adael neu ei gadael, wedi ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y person, yng nghyfeiriad priodol y person;

(c)drwy ei anfon neu ei hanfon drwy bost rhagdaledig, wedi ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y person yng nghyfeiriad priodol y person;

(d)os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno gan ddefnyddio cyfathrebiadau electronig, drwy ei anfon neu ei hanfon at y person yn y cyfeiriad hwnnw gan ddefnyddio cyfathrebiad electronig sy’n cydymffurfio â’r amodau yn is-adran (9).

(3)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(a) at roi hysbysiad neu ddogfen arall i berson â llaw—

(a)os mai corff corfforedig yw’r person, yn gyfeiriad at ei roi neu ei rhoi â llaw i un o swyddogion y corff;

(b)os mai partneriaeth yw’r person, yn gyfeiriad at ei roi neu ei rhoi â llaw i un o’r partneriaid.

(4)Mae’r cyfeiriad yn is-adran (2)(b) ac (c) at gyfeirio hysbysiad neu ddogfen arall at berson—

(a)os mai corff corfforedig yw’r person, yn gyfeiriad at ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y corff corfforedig, neu at un o swyddogion y corff;

(b)os mai partneriaeth yw’r person, yn gyfeiriad at ei gyfeirio neu ei chyfeirio at y bartneriaeth, neu at un o’r partneriaid.

(5)Mae is-adrannau (6) i (8) yn gymwys at ddibenion penderfynu cyfeiriad priodol person fel y cyfeirir ato yn is-adrannau (2)(b) ac (c).

(6)Os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad penodol neu ddogfen arall benodol, y cyfeiriad hwnnw yw cyfeiriad priodol y person at ddibenion cyflwyno’r hysbysiad hwnnw neu’r ddogfen arall honno.

(7)Yn achos cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall nad yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno mewn perthynas ag ef neu â hi fel y’i disgrifir yn is-adran (6), os yw’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau yn gyffredinol, y cyfeiriad hwnnw yw cyfeiriad priodol y person at ddibenion cyflwyno’r hysbysiad neu’r ddogfen arall.

(8)Yn achos cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall pan na fo’r person wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno fel y’i disgrifir yn is-adran (6) mewn perthynas â’r hysbysiad hwnnw neu’r ddogfen honno, nac wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno dogfennau yn gyffredinol, cyfeiriad priodol y person at ddibenion cyflwyno’r hysbysiad neu’r ddogfen arall yw—

(a)os mai corff corfforedig yw’r person, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

(b)os mai partneriaeth yw’r person, cyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth;

(c)mewn unrhyw achos arall, preswylfa hysbys ddiwethaf neu fan busnes hysbys diwethaf y person.

(9)Yr amodau y cyfeirir atynt yn is-adran (2)(d) yw bod yr hysbysiad neu’r ddogfen arall—

(a)yn gallu cael ei gyrchu neu ei chyrchu gan y person y’i hanfonir ato,

(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol, ac

(c)yn gallu cael ei ddefnyddio neu ei defnyddio ar gyfer cyfeirio ato neu ati yn y dyfodol.

(10)At ddibenion yr adran hon—

(a)prif swyddfa cwmni sydd wedi ei gofrestru y tu allan i’r Deyrnas Unedig neu bartneriaeth sy’n cyflawni busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig yw prif swyddfa’r cwmni hwnnw neu’r bartneriaeth honno yn y Deyrnas Unedig;

(b)ystyr “swyddog”, mewn perthynas â chorff corfforedig, yw cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall y corff corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 43 mewn grym ar 3.2.2026, gweler a. 48(1)(k)