RHAN 6AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
Cyffredinol
42Rheoliadau o dan y Ddeddf hon
(1)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol Cymreig.
(2)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol ac ar gyfer ardaloedd gwahanol.
(3)
Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer i wneud—
(a)
darpariaeth atodol, darpariaeth ddeilliadol a darpariaeth ganlyniadol;
(b)
darpariaeth drosiannol a darpariaeth arbed.
(4)
Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (3) yn cynnwys darpariaeth sy’n addasu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys y Ddeddf hon).
(5)
Mae offeryn statudol Cymreig y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i weithdrefn gymeradwyo’r Senedd.
(6)
Mae is-adran (5) yn gymwys i offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a ganlyn—
(a)
adran 16(5) (dirymu trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol a’u hatal dros dro);
(b)
adran 23(3) (cymhwyso’r cyfyngiad yn adran 23);
(c)
adran 25(2)(b) (gorchmynion eraill y caniateir eu gwneud gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â thorri’r cyfyngiad yn adran 23);
(d)
adran 25(9)(a)(i) a (b)(i) (penderfynu’r terfyn uchaf ar gyfer cosbau am dorri’r cyfyngiad yn adran 23);
(e)
adran 27 (darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion swyddogaethau o dan Ran 2 neu Ran 3);
(f)
adran 28 (darparu gwybodaeth am seilwaith a materion eraill i Weinidogion Cymru gan awdurdodau lleol a chynghorau cymuned);
(g)
adran 29 (gwybodaeth i gael ei rhoi i’r cyhoedd);
(h)
adran 30 (darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion adran 29);
(i)
adran 32(2)(b) (gorchmynion eraill y caniateir eu gwneud gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth);
(j)
adran 32(9)(a)(i) a (b)(i) (penderfynu’r terfyn uchaf ar gyfer cosbau am fethiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth);
(k)
adran 37(1) a (3) (cymhwyso Rheoliadau TUPE);
(l)
adran 44(3) (ystyr gweithredwr).
(7)
Mae is-adran (5) hefyd yn gymwys i offeryn statudol Cymreig sy’n cynnwys rheoliadau o dan unrhyw ddarpariaeth nas crybwyllir yn is-adran (6), pan fo’r rheoliadau yn addasu unrhyw ddarpariaeth mewn deddfwriaeth sylfaenol.
(8)
Mae unrhyw offeryn statudol Cymreig arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i weithdrefn annilysu’r Senedd.
(9)
Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol—
(a)
Deddf gan Senedd Cymru;
(b)
Mesur gan y Cynulliad;
(c)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.