RHAN 6AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Deddf Trafnidiaeth 1985: cofrestru gwasanaethau â chomisiynydd traffig

39Deddf Trafnidiaeth 1985: cofrestriad presennol etc. yn peidio â chael effaith

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys pan—

(a)

bo gwasanaeth bysiau lleol wedi ei gofrestru â chomisiynydd traffig o dan adran 6 o Ddeddf 1985, ond

(b)

bo’r gwasanaeth hwnnw yn peidio â bod yn wasanaeth lleol, at ddibenion adran 6, yn rhinwedd y diwygiadau a wneir i’r adran honno gan adran 38.

(2)

Pan fydd y gwasanaeth yn peidio â bod yn wasanaeth lleol at ddibenion adran 6—

(a)

mae cofrestriad y gwasanaeth o dan adran 6 yn peidio â chael effaith, a

(b)

mae unrhyw amod sydd wedi ei roi ynghlwm wrth drwydded bysiau cymunedol neu drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus o dan adran 8 o Ddeddf 1985, i’r graddau y mae’n gymwys mewn cysylltiad â’r gwasanaeth, yn peidio â chael effaith.