RHAN 6AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

Trosglwyddo ymgymeriadau

37Cymhwyso Rheoliadau TUPE

(1)

Rhaid i reoliadau wneud darpariaeth ar gyfer amgylchiadau pan fo trosglwyddiad perthnasol i’w drin fel pe bai’n digwydd at ddibenion Rheoliadau TUPE (i’r graddau‍ nad hyn fyddai’r achos fel arall), pan—

(a)

ymrwymir i gontract gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10, neu y’i terfynir neu y’i hamrywir, pa un ai o dan delerau’r contract neu fel arall;

(b)

rhoddir trwydded gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 12, neu y’i dirymir neu y’i hamrywir, neu fo’n peidio â chael effaith am fod y cyfnod a bennir o dan adran 13(1) wedi dod i ben;

(c)

bydd Gweinidogion Cymru yn ymgymryd â darparu gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 18, neu’n peidio â darparu gwasanaeth o’r fath.‍

(2)

Pan fo rheoliadau’n gwneud darpariaeth o dan is-adran (1) ar gyfer amgylchiadau pan fo trosglwyddiad perthnasol i’w drin fel pe bai’n digwydd at ddibenion Rheoliadau TUPE—

(a)

rhaid iddynt hefyd wneud darpariaeth i’r trosglwyddiad perthnasol hwnnw gael ei drin fel pe bai’n drosglwyddiad perthnasol, o fewn yr ystyr a roddir i “relevant transfer” yn Rheoliadau TUPE, at ddibenion adrannau 257 a 258 o Ddeddf Pensiynau 2024, ac unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 258 o’r Ddeddf honno;

(b)

cânt wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad â chymhwyso Rheoliadau TUPE mewn perthynas â’r trosglwyddiad perthnasol.‍

(3)

Yn yr adran hon—

(a)

mae cyfeiriadau at Reoliadau TUPE yn gyfeiriadau at Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006 (O.S. 2006/246);

(b)

mae cyfeiriadau at “trosglwyddiad perthnasol” yn gyfeiriadau at “relevant transfer” o fewn yr ystyr a roddir i’r term hwnnw yn y Rheoliadau hynny.