RHAN 5PWERAU A DYLETSWYDDAU AWDURDODAU LLEOL

36Cymorth ariannol mewn cysylltiad â gwasanaethau bysiau lleol

(1)

Caiff awdurdod lleol roi cymorth ariannol mewn cysylltiad â darparu gwasanaeth bysiau lleol.

(2)

Nid yw adran 88(1) o Ddeddf 1985 yn gymwys mewn perthynas â chymorth ariannol a roddir o dan is-adran (1) (ac, yn unol â hynny, nid yw adrannau 89 i 92 o’r Ddeddf honno (rheolau sy’n ymwneud â chytundebau cymhorthdal) yn gymwys).

(3)

Yn adran 63 (swyddogaethau cynghorau lleol mewn perthynas â thrafnidiaeth teithwyr) o Ddeddf 1985, yn is-adran (9), yn y geiriau agoriadol, ar ôl “references to services”, mewnosoder “in connection with which financial assistance has been given under section 36 of the Bus Services (Wales) Act 2026 and to services”.