Rhagolygol
(1)Caiff person y mae gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan is-adran (2) neu (3) o adran 32 apelio i’r Uwch Dribiwnlys yn erbyn gwneud y gorchymyn.
(2)Ar apêl yn erbyn gwneud gorchymyn, caiff yr Uwch Dribiwnlys—
(a)cadarnhau’r gorchymyn;
(b)diddymu’r gorchymyn;
(c)rhoi gorchymyn arall yn lle’r gorchymyn a wnaed.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 33 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(3)