RHAN 4GWYBODAETH A DATA
Gorfodi
33Gorfodi gofynion gwybodaeth: apelau
(1)
Caiff person y mae gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef o dan is-adran (2) neu (3) o adran 32 apelio i’r Uwch Dribiwnlys yn erbyn gwneud y gorchymyn.
(2)
Ar apêl yn erbyn gwneud gorchymyn, caiff yr Uwch Dribiwnlys—
(a)
cadarnhau’r gorchymyn;
(b)
diddymu’r gorchymyn;
(c)
rhoi gorchymyn arall yn lle’r gorchymyn a wnaed.