RHAN 4LL+CGWYBODAETH A DATA

GorfodiLL+C

32Gorfodi gofynion gwybodaethLL+C

(1)Os yw comisiynydd traffig wedi ei fodloni bod person sy’n gweithredu gwasanaeth bysiau neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth bysiau, heb esgus rhesymol, wedi methu â chydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â hysbysiad a roddir o dan adran 27 neu reoliadau a wneir o dan adran 30, caiff y comisiynydd traffig wneud un neu ragor o orchmynion o dan is-adran (2).

(2)Y gorchmynion yw—

(a)gorchymyn i’r person dalu, o fewn amser a bennir yn y gorchymyn, gosb o unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond nad yw’n fwy na’r terfyn uchaf;

(b)gorchymyn o unrhyw ddisgrifiad arall a ragnodir mewn rheoliadau.

(3)Os yw person yn methu â chydymffurfio â gorchymyn o dan is-adran (2), a bod yr amod yn is-adran (5) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r gorchymyn, caiff comisiynydd traffig wneud gorchymyn o dan yr is-adran hon yn gorchymyn i’r person dalu, o fewn cyfnod a bennir yn y gorchymyn, gosb ychwanegol.

(4)Caiff y gosb ychwanegol fod yn unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond ni chaiff fod yn fwy na 110% o’r terfyn uchaf.

(5)Yr amod yw naill ai—

(a)ar apêl o dan adran 33 yn erbyn gwneud y gorchymyn, bod y gorchymyn wedi ei gadarnhau, neu

(b)bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl i’r Uwch Dribiwnlys o dan adran 33 yn erbyn gwneud y gorchymyn wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei dwyn.

(6)Ar ôl gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3), rhaid i’r comisiynydd traffig roi hysbysiad i—

(a)y person y mae’r gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef, a

(b)Gweinidogion Cymru.

(7)Ac eithrio i unrhyw raddau y darperir ar eu cyfer mewn rheoliadau o dan yr adran hon, mae swm y gorchmynnir ei dalu o dan is-adran (2) neu (3) yn daladwy i Weinidogion Cymru ac yn adenilladwy, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

(8)Caiff rheoliadau o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth ynghylch gorchmynion o dan yr adran hon gan gynnwys darpariaeth ynghylch (ymhlith pethau eraill)—

(a)ffurf a chynnwys gorchymyn;

(b)y weithdrefn sydd i’w dilyn gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â gorchymyn.

(9)Y terfyn uchaf, at ddibenion cosb y gorchmynnir i berson ei thalu o dan yr adran hon, yw—

(a)yn achos person a oedd, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, y swm a gyfrifir drwy luosi cyfanswm nifer y cerbydau yr oedd y person wedi ei drwyddedu i’w defnyddio o dan yr holl drwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddalid gan y person ar yr adeg berthnasol, â’r naill neu’r llall o—

(i)swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu

(ii)os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550;

(b)yn achos person nad oedd, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus—

(i)swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu

(ii)os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550.

(10)At ddibenion is-adran (9), yr “adeg berthnasol” yw—

(a)yn achos methiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â hysbysiad a roddir o dan adran 27, yr amser y rhoddwyd yr hysbysiad;

(b)yn achos methiant i gydymffurfio â gofyniad i ddarparu gwybodaeth yn unol â rheoliadau a wneir o dan adran 30, yr amser y methodd y person â chydymffurfio â’r gofyniad hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 32(2)(b)(8)(9)(a)(i)(b)(i) mewn grym ar 3.2.2026, gweler a. 48(1)(j)