RHAN 4GWYBODAETH A DATA
Gwybodaeth i’w rhoi i’r cyhoedd
30Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion adran 29
(1)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ei gwneud yn ofynnol—
(a)
i berson sy’n gweithredu gwasanaeth bysiau lleol,
(b)
i berson sy’n gweithredu gwasanaeth adran 19 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19, neu
(c)
i berson sy’n gweithredu gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19,
ddarparu gwybodaeth benodedig mewn perthynas â’r gwasanaeth i Weinidogion Cymru.
(2)
Ni chaniateir pennu gwybodaeth yn y rheoliadau oni bai bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen yr wybodaeth at ddiben y ddyletswydd o dan adran 29(1).
(3)
Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn y rheoliadau yn cynnwys gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)
amserlenni ac amlderau gwasanaeth, a phrydlondeb gwasanaethau;
(b)
llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(c)
mannau esgyn a mannau disgyn;
(d)
trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)
archebu siwrneiau;
(f)
taliadau teithio a thocynnau;
(g)
gweithredu gwasanaethau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—
(i)
lleoliad cerbydau;
(ii)
yr amser y mae gwasanaeth wedi cyrraedd neu y disgwylir iddo gyrraedd cyrchfan;
(h)
cyfleusterau sydd ar gael i deithwyr ar gerbydau;
(i)
cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(j)
amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig) sydd ar gael yng nghyffiniau mannau esgyn a mannau disgyn.
(4)
Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth sy’n pennu sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei darparu.