RHAN 1CYSYNIADAU ALLWEDDOL AC AMCANION CYFFREDINOL
Cysyniadau allweddol
3Ystyr “gwasanaeth bysiau lleol hyblyg” a “gwasanaeth bysiau lleol safonol”
Yn y Ddeddf hon—
(a)
mae cyfeiriadau at “gwasanaeth bysiau lleol hyblyg” yn gyfeiriadau at wasanaeth bysiau lleol sydd, er gwaethaf bodolaeth unrhyw rannau cyfyngedig o’r llwybr sy’n sefydlog, mor hyblyg yng nghyfanrwydd ei weithrediad fel na fyddai’n ymarferol nodi ei lwybr at ddibenion Cynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru (gweler adran 5(1)(b));
(b)
mae cyfeiriadau at “gwasanaeth bysiau lleol safonol” yn gyfeiriadau at wasanaeth bysiau lleol nad yw’n wasanaeth bysiau lleol hyblyg.