(1)Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i sicrhau bod yr wybodaeth a bennir mewn rheoliadau o dan yr adran hon yn cael ei rhoi i’r cyhoedd.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon bennu gwybodaeth sy’n ymwneud â gwasanaeth o fewn is-adran (3).
(3)Y gwasanaethau yw—
(a)gwasanaeth bysiau lleol;
(b)gwasanaeth adran 19 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19;
(c)gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19.
(4)Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn y rheoliadau yn cynnwys gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)amserlenni ac amlderau gwasanaeth, a phrydlondeb gwasanaethau;
(b)llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(c)mannau esgyn a mannau disgyn;
(d)trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)archebu siwrneiau;
(f)taliadau teithio a thocynnau;
(g)gweithredu gwasanaethau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—
(i)lleoliad cerbydau;
(ii)yr amser y mae gwasanaeth wedi cyrraedd neu y disgwylir iddo gyrraedd cyrchfan;
(h)cyfleusterau sydd ar gael i deithwyr ar gerbydau;
(i)cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(j)amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig) sydd ar gael yng nghyffiniau mannau esgyn a mannau disgyn.
(5)Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth sy’n pennu sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei rhoi i’r cyhoedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 29(2)-(5) mewn grym ar 3.2.2026, gweler a. 48(1)(h)