RHAN 4GWYBODAETH A DATA

Gwybodaeth i’w rhoi i’r cyhoedd

29Dyletswydd i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhoi i’r cyhoedd

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru wneud trefniadau i sicrhau bod yr wybodaeth a bennir mewn rheoliadau o dan yr adran hon yn cael ei rhoi i’r cyhoedd.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon bennu gwybodaeth sy’n ymwneud â gwasanaeth o fewn is-adran (3).

(3)

Y gwasanaethau yw—

(a)

gwasanaeth bysiau lleol;

(b)

gwasanaeth adran 19 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19;

(c)

gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 y dibynnir arno fel y’i disgrifir yn adran 19.

(4)

Mae’r wybodaeth y caniateir ei phennu yn y rheoliadau yn cynnwys gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—

(a)

amserlenni ac amlderau gwasanaeth, a phrydlondeb gwasanaethau;

(b)

llwybrau ac ardaloedd gweithredu;

(c)

mannau esgyn a mannau disgyn;

(d)

trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;

(e)

archebu siwrneiau;

(f)

taliadau teithio a thocynnau;

(g)

gweithredu gwasanaethau, gan gynnwys (ymhlith pethau eraill)—

(i)

lleoliad cerbydau;

(ii)

yr amser y mae gwasanaeth wedi cyrraedd neu y disgwylir iddo gyrraedd cyrchfan;

(h)

cyfleusterau sydd ar gael i deithwyr ar gerbydau;

(i)

cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;

(j)

amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig) sydd ar gael yng nghyffiniau mannau esgyn a mannau disgyn.

(5)

Rhaid i’r rheoliadau wneud darpariaeth sy’n pennu sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei rhoi i’r cyhoedd.