RHAN 4GWYBODAETH A DATA
Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion arfer swyddogaethau penodol
28Darparu gwybodaeth am seilwaith a materion eraill penodol i Weinidogion Cymru gan awdurdodau lleol a chynghorau cymuned at ddibenion swyddogaethau o dan Ran 2
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad o dan yr adran hon i awdurdod lleol neu gyngor cymuned yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod neu’r cyngor ddarparu i Weinidogion Cymru wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad.
(2)
Rhaid i’r hysbysiad nodi sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei darparu.
(3)
Ni chaniateir pennu gwybodaeth yn yr hysbysiad oni bai—
(a)
bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen yr wybodaeth at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Ran 2, a
(b)
bod yr wybodaeth o fath a bennir mewn rheoliadau o dan yr adran hon.
(4)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon bennu gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)
llwybrau;
(b)
mannau lle y caniateir i deithwyr esgyn i wasanaethau bysiau a disgyn oddi arnynt;
(c)
seilwaith, gan gynnwys seilwaith trafnidiaeth ffyrdd a seilwaith priffyrdd;
(d)
gweithredu gwasanaethau bysiau;
(e)
argaeledd gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr a gwasanaethau adran 19;
(f)
amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig).