RHAN 4GWYBODAETH A DATA
Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru at ddibenion arfer swyddogaethau penodol
27Darparu gwybodaeth i Weinidogion Cymru gan weithredwyr presennol a chyn-weithredwyr at ddibenion swyddogaethau o dan Ran 2 neu Ran 3
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad o dan yr adran hon i—
(a)
person sy’n gweithredu gwasanaeth bysiau lleol neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath,
(b)
person sy’n gweithredu gwasanaeth adran 19 neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath, neu
(c)
person sy’n gweithredu gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 neu sydd wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath,
yn ei gwneud yn ofynnol i’r person ddarparu i Weinidogion Cymru wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.
(2)
O ran yr hysbysiad—
(a)
rhaid iddo nodi sut a phryd y mae’r wybodaeth i gael ei darparu;
(b)
ni chaiff ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth sy’n ymwneud â chyfnod sy’n dod i ben fwy na phum mlynedd cyn y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, nac sy’n ymwneud â dyddiad sy’n fwy na phum mlynedd cyn y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
(3)
Ni chaniateir pennu gwybodaeth yn yr hysbysiad oni bai—
(a)
bod Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen yr wybodaeth at ddiben arfer swyddogaeth berthnasol, a
(b)
bod yr wybodaeth o fath a bennir mewn rheoliadau o dan yr adran hon.
(4)
Caiff rheoliadau o dan yr adran hon bennu gwybodaeth am (ymhlith pethau eraill)—
(a)
amserlenni ac amlderau gwasanaeth, a phrydlondeb gwasanaethau;
(b)
llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(c)
mannau esgyn a mannau disgyn;
(d)
trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)
archebu siwrneiau;
(f)
taliadau teithio, tocynnau, refeniw a chostau sy’n gysylltiedig â gwasanaethau;
(g)
mathau o siwrneiau a nifer y siwrneiau a wneir;
(h)
niferoedd teithwyr;
(i)
cerbydau a’r defnydd ohonynt;
(j)
cyfleusterau sydd ar gael i deithwyr ar gerbydau;
(k)
cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(l)
amwynderau a chyfleusterau (gan gynnwys llwybrau teithio llesol a chyfleusterau cysylltiedig) sydd ar gael yng nghyffiniau mannau esgyn a mannau disgyn;
(m)
cyfansoddiad y gweithlu;
(n)
rhagolygon yn ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion uchod.
(5)
O ran y rheoliadau—
(a)
rhaid iddynt wneud darpariaeth ynghylch apelau;
(b)
cânt wneud darpariaeth ynghylch datgelu gwybodaeth (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth ynghylch y defnydd o wybodaeth gan bersonau y’i datgelir iddynt).
(6)
At ddibenion yr adran hon, “swyddogaeth berthnasol” yw—
(a)
swyddogaeth Gweinidogion Cymru sy’n arferadwy o dan Ran 2 neu Ran 3;
(b)
swyddogaeth Gweinidogion Cymru sydd fel arall yn arferadwy mewn perthynas â chontract gwasanaeth bysiau lleol, trwydded gwasanaeth bysiau lleol, neu wasanaeth y dibynnir arno o dan adran 19.
(7)
Yn y Rhan hon, mae i “llwybr teithio llesol” a “cyfleusterau cysylltiedig” yr ystyr a roddir yn adran 2 o Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (dccc 7)