RHAN 3CYFYNGIAD AR DDARPARU GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

25Gorfodi’r cyfyngiad

(1)

Os yw comisiynydd traffig wedi ei fodloni—

(a)

bod person yn gweithredu gwasanaeth bysiau lleol neu wedi gweithredu gwasanaeth o’r fath yn groes i adran 23, a

(b)

wrth weithredu’r gwasanaeth hwnnw, fod y person wedi methu â chymryd pob cam rhesymol i osgoi torri gofynion yr adran honno,

caiff y comisiynydd traffig wneud un neu ragor o orchmynion o dan is-adran (2).

(2)

Y gorchmynion yw—

(a)

gorchymyn i’r person dalu, o fewn amser a bennir yn y gorchymyn, gosb o unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond nad yw’n fwy na’r terfyn uchaf;

(b)

gorchymyn o unrhyw ddisgrifiad arall a ragnodir mewn rheoliadau.

(3)

Os yw person yn methu â chydymffurfio â gorchymyn o dan is-adran (2), a bod yr amod yn is-adran (5) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r gorchymyn, caiff comisiynydd traffig wneud gorchymyn o dan yr is-adran hon yn gorchymyn i’r person dalu, o fewn cyfnod a bennir yn y gorchymyn, gosb ychwanegol.

(4)

Caiff y gosb ychwanegol fod yn unrhyw swm y mae’r comisiynydd traffig yn credu ei fod yn briodol o dan holl amgylchiadau’r achos, ond ni chaiff fod yn fwy na 110% o’r terfyn uchaf.

(5)

Yr amod yw naill ai—

(a)

ar apêl o dan adran 26 yn erbyn gwneud y gorchymyn, bod y gorchymyn wedi ei gadarnhau, neu

(b)

bod y cyfnod ar gyfer dwyn apêl i’r Uwch Dribiwnlys o dan adran 26 yn erbyn gwneud y gorchymyn wedi dod i ben heb fod apêl wedi ei dwyn.

(6)

Ar ôl gwneud gorchymyn o dan is-adran (2) neu (3), rhaid i’r comisiynydd traffig roi hysbysiad i—

(a)

y person y mae’r gorchymyn wedi ei wneud mewn perthynas ag ef, a

(b)

Gweinidogion Cymru.

(7)

Ac eithrio i unrhyw raddau y darperir ar eu cyfer mewn rheoliadau o dan yr adran hon, mae swm y gorchmynnir ei dalu o dan is-adran (2) neu (3) yn daladwy i Weinidogion Cymru ac yn adenilladwy, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.

(8)

Caiff rheoliadau o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth ynghylch gorchmynion o dan yr adran hon gan gynnwys darpariaeth ynghylch (ymhlith pethau eraill)—

(a)

ffurf a chynnwys gorchymyn;

(b)

y weithdrefn sydd i’w dilyn gan gomisiynydd traffig mewn perthynas â gorchymyn.

(9)

Y terfyn uchaf, at ddibenion cosb y gorchmynnir i berson ei thalu o dan yr adran hon, yw

(a)

yn achos person sydd, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus, y swm a gyfrifir drwy luosi cyfanswm nifer y cerbydau y mae’r person wedi ei drwyddedu i’w defnyddio o dan yr holl drwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan y person ar yr adeg berthnasol, â’r naill neu’r llall o—

(i)

swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu

(ii)

os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550;

(b)

yn achos person nad yw, ar yr adeg berthnasol, wedi ei drwyddedu i ddefnyddio cerbydau o dan drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus—

(i)

swm a bennir mewn rheoliadau o dan yr is-baragraff hwn, neu

(ii)

os nad oes unrhyw swm wedi ei bennu felly, £550.

(10)

At ddibenion is-adran (9), yr “adeg berthnasol” yw—

(a)

yn achos gorchymyn a wneir o dan is-adran (2)(a), yr adeg y gwneir y gorchymyn hwnnw;

(b)

yn achos gorchymyn a wneir o dan is-adran (3) mewn perthynas â methiant i gydymffurfio â gorchymyn o dan is-adran (2), yr adeg y gwnaed y gorchymyn hwnnw o dan is-adran (2).