Rhagolygol

RHAN 3LL+CCYFYNGIAD AR DDARPARU GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

23Cyfyngiad ar ddarparu gwasanaethau bysiau lleolLL+C

(1)Ni chaniateir darparu gwasanaeth bysiau lleol yng Nghymru oni bai—

(a)ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru o dan gontract gwasanaeth bysiau lleol,

(b)ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru o dan drwydded gwasanaeth bysiau lleol, neu

(c)ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru gan Weinidogion Cymru o dan adran 18.

(2)Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i wasanaeth bysiau lleol—

(a)sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, neu

(b)sy’n cael ei ddarparu fel y’i disgrifir yn adran 46(1) o Ddeddf 1981 (teithwyr sy’n talu am deithio ar fysiau ysgol).

(3)Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion darparu bod is-adran (1) yn gymwys neu nad yw’n gymwys i ddisgrifiad penodedig o wasanaeth bysiau lleol, neu ei bod yn gymwys neu nad yw’n gymwys i wasanaeth bysiau lleol a ddarperir mewn modd penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(3)