RHAN 3CYFYNGIAD AR DDARPARU GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

23Cyfyngiad ar ddarparu gwasanaethau bysiau lleol

(1)

Ni chaniateir darparu gwasanaeth bysiau lleol yng Nghymru oni bai—

(a)

ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru o dan gontract gwasanaeth bysiau lleol,

(b)

ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru o dan drwydded gwasanaeth bysiau lleol, neu

(c)

ei fod yn cael ei ddarparu yng Nghymru gan Weinidogion Cymru o dan adran 18.

(2)

Ond nid yw is-adran (1) yn gymwys i wasanaeth bysiau lleol—

(a)

sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, neu

(b)

sy’n cael ei ddarparu fel y’i disgrifir yn adran 46(1) o Ddeddf 1981 (teithwyr sy’n talu am deithio ar fysiau ysgol).

(3)

Caiff rheoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion darparu bod is-adran (1) yn gymwys neu nad yw’n gymwys i ddisgrifiad penodedig o wasanaeth bysiau lleol, neu ei bod yn gymwys neu nad yw’n gymwys i wasanaeth bysiau lleol a ddarperir mewn modd penodedig.