RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Hysbysiad i’w roi i gomisiynydd traffig

22Hysbysiad i’w roi i gomisiynydd traffig o faterion penodol sy’n ymwneud â chontractau a thrwyddedau gwasanaeth bysiau lleol

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10, hysbysu comisiynydd traffig yr ymrwymwyd i’r contract;

(b)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi o dan adran 12, hysbysu comisiynydd traffig bod y drwydded wedi ei rhoi, ac am y cyfnod a bennir yn y drwydded o dan adran 13(1);

(c)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i gontract gwasanaeth bysiau lleol derfynu, pa un ai o dan delerau’r contract neu fel arall, hysbysu comisiynydd traffig ei fod wedi terfynu;

(d)

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei dirymu neu ei hatal dros dro o dan adran 16, hysbysu comisiynydd traffig ei bod wedi ei dirymu neu ei hatal dros dro ac, yn achos atal trwydded dros dro, y cyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith.