RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Gwasanaethau trawsffiniol
20Gwasanaethau trawsffiniol a’r ddyletswydd i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu
(1)
At ddibenion yr adran hon—
(a)
mae gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau lleol safonol yn wasanaeth trawsffiniol os—
(i)
yw llwybr y gwasanaeth wedi ei nodi yng Nghynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, a
(ii)
yw rhan o’r llwybr hwnnw yng Nghymru a rhan ohono yn Lloegr;
(b)
mae gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau lleol hyblyg yn wasanaeth trawsffiniol os—
(i)
yw ardal weithredu ddaearyddol y gwasanaeth wedi ei nodi yng Nghynllun Rhwydwaith Bysiau Cymru, a
(ii)
yw rhan o’r ardal honno yng Nghymru a rhan ohoni yn Lloegr;
(c)
mae cyfeiriadau at wasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn gyfeiriadau at wasanaeth trawsffiniol i’r graddau—
(i)
yn achos gwasanaeth bysiau lleol safonol, y mae ei lwybr yn Lloegr;
(ii)
yn achos gwasanaeth bysiau lleol hyblyg, y mae ei ardal weithredu yn Lloegr.
(2)
Nid yw adran 5(1)(c) i’w thrin fel pe bai’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru sicrhau bod gwasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn cael ei ddarparu os ydynt yn ystyried bod yr amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni mewn perthynas â’r gwasanaeth.
(3)
Yr amod yw y caiff yr anghenion trafnidiaeth perthnasol eu diwallu heb i Weinidogion Cymru sicrhau bod y gwasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn cael ei ddarparu.
(4)
At y diben hwn, ystyr “yr anghenion trafnidiaeth perthnasol” yw’r anghenion trafnidiaeth yng Nghymru a fyddai’n cael eu diwallu pe bai Gweinidogion Cymru yn sicrhau bod y gwasanaeth trawsffiniol yn Lloegr yn cael ei ddarparu.
(5)
Wrth ystyried a yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni, nid oes ystyriaeth i’w rhoi i unrhyw ddarpariaeth a sicrheir gan gyngor sir yn Lloegr o dan adran 63 o Ddeddf 1985 (swyddogaethau cynghorau lleol mewn perthynas â thrafnidiaeth).