RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Rhagolygol

Dibynnu ar wasanaethau penodolLL+C

19Dibynnu ar wasanaethau bysiau cymunedol a gwasanaethau eraill penodol at ddibenion dyletswydd adran 5(1)(c)LL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ddibynnu ar wasanaeth o fewn is-adran (2) a ddarperir gan unrhyw berson (heb, yn achos gwasanaeth y mae’r pwerau yn adran 10 neu 12 ar gael mewn perthynas ag ef, ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol na rhoi trwydded gwasanaeth bysiau lleol mewn perthynas â’r gwasanaeth).

(2)Y gwasanaethau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau cymunedol;

(b)gwasanaeth bysiau lleol a ddarperir fel y’i disgrifir yn adran 46(1) o Ddeddf 1981 (teithwyr sy’n talu am deithio ar fysiau ysgol);

(c)gwasanaeth adran 19;

(d)gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(3)