RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Dibynnu ar wasanaethau penodol
19Dibynnu ar wasanaethau bysiau cymunedol a gwasanaethau eraill penodol at ddibenion dyletswydd adran 5(1)(c)
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ddibynnu ar wasanaeth o fewn is-adran (2) a ddarperir gan unrhyw berson (heb, yn achos gwasanaeth y mae’r pwerau yn adran 10 neu 12 ar gael mewn perthynas ag ef, ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol na rhoi trwydded gwasanaeth bysiau lleol mewn perthynas â’r gwasanaeth).
(2)
Y gwasanaethau o fewn yr is-adran hon yw—
(a)
gwasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau cymunedol;
(b)
gwasanaeth bysiau lleol a ddarperir fel y’i disgrifir yn adran 46(1) o Ddeddf 1981 (teithwyr sy’n talu am deithio ar fysiau ysgol);
(c)
gwasanaeth adran 19;
(d)
gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1.