RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Rhagolygol

Gwasanaethau bysiau lleol a ddarperir gan Weinidogion CymruLL+C

18Gweinidogion Cymru yn darparu gwasanaethau bysiau lleolLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ddarparu gwasanaeth bysiau lleol os ydynt wedi eu bodloni y byddai gwneud hynny yn ffordd fwy effeithiol o gyflawni’r ddyletswydd honno nag ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10 mewn perthynas â’r gwasanaeth.

(2)Nid yw is-adran (1) yn gymwys i wasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 48(3)