RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Gwasanaethau bysiau lleol a ddarperir gan Weinidogion Cymru
18Gweinidogion Cymru yn darparu gwasanaethau bysiau lleol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ddarparu gwasanaeth bysiau lleol os ydynt wedi eu bodloni y byddai gwneud hynny yn ffordd fwy effeithiol o gyflawni’r ddyletswydd honno nag ymrwymo i gontract gwasanaeth bysiau lleol o dan adran 10 mewn perthynas â’r gwasanaeth.
(2)
Nid yw is-adran (1) yn gymwys i wasanaeth bysiau lleol sy’n wasanaeth bysiau cymunedol.