RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol
17Trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol: apelau
(1)
Caiff person y mae ei gais am drwydded gwasanaeth bysiau lleol yn cael ei wrthod apelio yn erbyn y gwrthodiad.
(2)
Caiff person y rhoddwyd iddo drwydded gwasanaeth bysiau lleol apelio yn erbyn unrhyw amod sydd ynghlwm wrth y drwydded (gan gynnwys yn erbyn diwygiad i amod).
(3)
Caiff person y rhoddwyd iddo drwydded gwasanaeth bysiau lleol sy’n cael ei dirymu apelio yn erbyn dirymu’r drwydded.
(4)
Caiff person y rhoddwyd iddo drwydded gwasanaeth bysiau lleol sy’n cael ei hatal dros dro apelio yn erbyn—
(a)
yr ataliad dros dro;
(b)
y cyfnod a bennir o dan adran 16(2)(c);
(c)
yr amodau a bennir o dan adran 16(2)(c).
(5)
Mae apêl i’w dwyn gerbron y Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(6)
Ar apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a)
cadarnhau’r penderfyniad y dygir yr apêl mewn perthynas ag ef,
(b)
diddymu’r penderfyniad, neu
(c)
rhoi penderfyniad arall yn lle’r penderfyniad y dygir yr apêl mewn perthynas ag ef.
(7)
Yn is-adran (2), nid yw cyfeiriadau at amodau yn cynnwys cyfeiriad at amod sydd wedi ei roi ynghlwm wrth drwydded gwasanaeth bysiau lleol yn unol ag adran 14(1).