RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol
16Dirymu trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol a’u hatal dros dro
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu trwydded gwasanaeth bysiau lleol neu ei hatal dros dro drwy roi hysbysiad i’r perwyl hwn i’r person y rhoddwyd y drwydded iddo (“deiliad y drwydded”).
(2)
Rhaid i’r hysbysiad bennu—
(a)
y sail y caiff y drwydded ei dirymu neu ei hatal dros dro arni;
(b)
pryd y mae’r diddymiad neu’r ataliad dros dro yn cymryd effaith;
(c)
yn achos atal trwydded dros dro, y cyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith (y “cyfnod atal dros dro”), a’r amodau y mae angen cydymffurfio â hwy cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(3)
Y seiliau y caniateir i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei dirymu neu ei hatal dros dro arnynt yw—
(a)
y bu methiant i gydymffurfio ag amod sydd ynghlwm wrth y drwydded;
(b)
y byddai parhau i ddarparu’r gwasanaeth a bennir yn y drwydded yn peryglu aelodau’r cyhoedd;
(c)
yn achos trwydded y mae amod wedi ei roi ynghlwm wrthi o dan adran 14(1)—
(i)
nad yw deiliad y drwydded ar hyn o bryd yn dal unrhyw drwyddedau bysiau cymunedol, neu
(ii)
ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod trwydded bysiau cymunedol a ddelir gan ddeiliad y drwydded wedi ei dirymu o dan adran 23(6) o Ddeddf 1985 (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau bysiau cymunedol eraill ai peidio);
(d)
yn achos trwydded nad oes amod wedi ei roi ynghlwm wrthi o dan adran 14(1)—
(i)
nad yw deiliad y drwydded ar hyn o bryd yn dal unrhyw drwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus,
(ii)
ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan ddeiliad y drwydded wedi ei hatal dros dro o dan adran 17(2) o Ddeddf 1981 (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill ai peidio),
(iii)
ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan ddeiliad y drwydded wedi ei dirymu o dan adran 17(1) neu (2) o Ddeddf 1981 (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill ai peidio), neu
(iv)
ers i’r drwydded gael ei rhoi, fod amod wedi ei roi ynghlwm wrth drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus a ddelir gan ddeiliad y drwydded, o dan adran 26(1A) o Ddeddf 1985, sy’n gwahardd deiliad y drwydded rhag defnyddio cerbydau o dan y drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol o bob disgrifiad, neu o ddisgrifiad a bennir yn yr amod (pa un a yw deiliad y drwydded yn parhau i ddal trwyddedau gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus eraill nad oes unrhyw amod o’r fath wedi ei roi ynghlwm wrthynt ai peidio);
(e)
bod y cyfnod atal dros dro a bennir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (1) mewn perthynas â’r drwydded wedi dod i ben heb gydymffurfiaeth â’r amodau a bennir o dan is-adran (2)(c).
(4)
Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (5)(b), caiff hysbysiad a roddir o dan is-adran (1) bennu o dan is-adran (2)(b) fod y dirymiad trwydded neu’r ataliad dros dro yn cymryd effaith naill ai ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad, neu ar ddyddiad ar ôl hynny.
(5)
Caiff rheoliadau—
(a)
addasu is-adran (3);
(b)
gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae dirymiad trwydded gwasanaeth bysiau lleol neu ataliad dros dro yn cymryd effaith.