(1)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am drwyddedau gwasanaeth bysiau lleol.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch—
(a)ffurf a chynnwys cais;
(b)pryd a sut y mae cais i’w wneud;
(c)ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais am drwydded gwasanaeth bysiau lleol, rhaid iddynt roi hysbysiad o’u rhesymau i’r ceisydd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 15(1)(2) mewn grym ar 3.2.2026, gweler a. 48(1)(e)