RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol

15Ceisiadau am drwyddedau gwasanaeth bysiau lleol

(1)

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am drwyddedau gwasanaeth bysiau lleol.

(2)

Caiff rheoliadau o dan yr adran hon, ymhlith pethau eraill, wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

ffurf a chynnwys cais;

(b)

pryd a sut y mae cais i’w wneud;

(c)

ffioedd sy’n daladwy mewn cysylltiad â chais.

(3)

Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais am drwydded gwasanaeth bysiau lleol, rhaid iddynt roi hysbysiad o’u rhesymau i’r ceisydd.