RHAN 2LL+CSWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Trwyddedau gwasanaeth bysiau lleolLL+C

14Amodau sydd ynghlwm wrth drwyddedau gwasanaeth bysiau lleolLL+C

(1)Yn achos trwydded gwasanaeth bysiau lleol a roddir i berson o fewn adran 12(4)(a) mewn perthynas â gwasanaeth sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, rhaid i Weinidogion Cymru roi amod ynghlwm wrth y drwydded sy’n ei gwneud yn ofynnol—

(a)i’r gwasanaeth o dan sylw gael ei ddarparu fel gwasanaeth bysiau cymunedol, a

(b)i bob cerbyd a ddefnyddir wrth ddarparu’r gwasanaeth gael ei ddefnyddio felly o dan‍ drwydded bysiau cymunedol ac yn unol â thelerau trwydded bysiau cymunedol.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amodau pellach y mae rhaid eu rhoi ynghlwm wrth drwydded gwasanaeth bysiau lleol.

(3)Caiff y ddarpariaeth honno ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—

(a)prydlondeb, dibynadwyedd a diogelwch;

(b)amlder ac amseru;

(c)llwybrau ac ardaloedd gweithredu;

(d)trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;

(e)mannau esgyn a mannau disgyn;

(f)archebu siwrneiau;

(g)cadw cofnodion;

(h)cerbydau (gan gynnwys cyfleusterau sydd i’w darparu a gwybodaeth sydd i’w harddangos ar gerbydau), allyriadau cerbydau, a mathau o danwydd neu bŵer;

(i)cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;

(j)siwrneiau teithwyr sy’n golygu teithio ar fwy nag un gwasanaeth bysiau lleol, neu deithio ar wasanaeth bysiau lleol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr neu wasanaethau adran 19;

(k)tocynnu, taliadau teithio, a sut y caniateir dangos tystiolaeth o hawl i deithio;

(l)addysg a hyfforddiant;

(m)rhyngweithio â chwsmeriaid, gan gynnwys mewn cysylltiad ag adborth gan gwsmeriaid, a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a digwyddiadau;

(n)cydymffurfiaeth â gofynion statudol;

(o)cymhellion ar gyfer gwella ansawdd gwasanaeth;

(p)cyfleusterau ac amwynderau sydd i’w darparu i unrhyw berson;

(q)taliadau i unrhyw berson.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi, ddileu amod sydd ynghlwm wrth y drwydded drwy roi hysbysiad o hyn i ddeiliad y drwydded a chydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysia‍d.

(5)Os yw’r amod yn is-adran (6) neu (7) wedi ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi, drwy roi hysbysiad o hyn i ddeiliad y drwydded a chydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, amrywio’r drwydded drwy—

(a)diwygio amod sydd ynghlwm wrth y drwydded;

(b)rhoi amod newydd ynghlwm wrth y drwydded.

(6)Yr amod yw bod yr amrywiad yn cael ei wneud o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2).

(7)Yr amod yw bod deiliad y drwydded wedi cytuno—

(a)â’r amrywiad i’r drwydded fel y’i nodir yn yr hysbysiad, a

(b)â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r amrywiad i gymryd effaith ohono.

(8)Caniateir i’r dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (4) neu (5) fod naill ai’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno, neu ddyddiad ar ôl hynny.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 14(2)(3) mewn grym ar 3.2.2026, gweler a. 48(1)(d)