RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol
14Amodau sydd ynghlwm wrth drwyddedau gwasanaeth bysiau lleol
(1)
Yn achos trwydded gwasanaeth bysiau lleol a roddir i berson o fewn adran 12(4)(a) mewn perthynas â gwasanaeth sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, rhaid i Weinidogion Cymru roi amod ynghlwm wrth y drwydded sy’n ei gwneud yn ofynnol—
(a)
i’r gwasanaeth o dan sylw gael ei ddarparu fel gwasanaeth bysiau cymunedol, a
(b)
i bob cerbyd a ddefnyddir wrth ddarparu’r gwasanaeth gael ei ddefnyddio felly o dan drwydded bysiau cymunedol ac yn unol â thelerau trwydded bysiau cymunedol.
(2)
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch amodau pellach y mae rhaid eu rhoi ynghlwm wrth drwydded gwasanaeth bysiau lleol.
(3)
Caiff y ddarpariaeth honno ymwneud ag unrhyw un neu ragor o’r materion a ganlyn (ymhlith materion eraill)—
(a)
prydlondeb, dibynadwyedd a diogelwch;
(b)
amlder ac amseru;
(c)
llwybrau ac ardaloedd gweithredu;
(d)
trefniadau ar gyfer penderfynu pryd y caiff teithwyr eu codi neu eu gollwng;
(e)
mannau esgyn a mannau disgyn;
(f)
archebu siwrneiau;
(g)
cadw cofnodion;
(h)
cerbydau (gan gynnwys cyfleusterau sydd i’w darparu a gwybodaeth sydd i’w harddangos ar gerbydau), allyriadau cerbydau, a mathau o danwydd neu bŵer;
(i)
cysylltiadau â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr ac â gwasanaethau adran 19;
(j)
siwrneiau teithwyr sy’n golygu teithio ar fwy nag un gwasanaeth bysiau lleol, neu deithio ar wasanaeth bysiau lleol a gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus i deithwyr neu wasanaethau adran 19;
(k)
tocynnu, taliadau teithio, a sut y caniateir dangos tystiolaeth o hawl i deithio;
(l)
addysg a hyfforddiant;
(m)
rhyngweithio â chwsmeriaid, gan gynnwys mewn cysylltiad ag adborth gan gwsmeriaid, a gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â chwynion a digwyddiadau;
(n)
cydymffurfiaeth â gofynion statudol;
(o)
cymhellion ar gyfer gwella ansawdd gwasanaeth;
(p)
cyfleusterau ac amwynderau sydd i’w darparu i unrhyw berson;
(q)
taliadau i unrhyw berson.
(4)
Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi, ddileu amod sydd ynghlwm wrth y drwydded drwy roi hysbysiad o hyn i ddeiliad y drwydded a chydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(5)
Os yw’r amod yn is-adran (6) neu (7) wedi ei fodloni, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl i drwydded gwasanaeth bysiau lleol gael ei rhoi, drwy roi hysbysiad o hyn i ddeiliad y drwydded a chydag effaith o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, amrywio’r drwydded drwy—
(a)
diwygio amod sydd ynghlwm wrth y drwydded;
(b)
rhoi amod newydd ynghlwm wrth y drwydded.
(6)
Yr amod yw bod yr amrywiad yn cael ei wneud o ganlyniad i ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2).
(7)
Yr amod yw bod deiliad y drwydded wedi cytuno—
(a)
â’r amrywiad i’r drwydded fel y’i nodir yn yr hysbysiad, a
(b)
â’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad fel y dyddiad y mae’r amrywiad i gymryd effaith ohono.
(8)
Caniateir i’r dyddiad a bennir mewn hysbysiad a roddir o dan is-adran (4) neu (5) fod naill ai’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad arno, neu ddyddiad ar ôl hynny.