RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL
Trwyddedau gwasanaeth bysiau lleol
13Cyfnod y mae trwydded gwasanaeth bysiau lleol yn cael effaith
(1)
Rhaid i drwydded gwasanaeth bysiau lleol bennu’r cyfnod y mae’n cael effaith .
(2)
Mae trwydded gwasanaeth bysiau lleol yn peidio â chael effaith—
(a)
pan ddaw’r cyfnod a bennir o dan is-adran (1) i ben, neu
(b)
os caiff ei dirymu o dan adran 16 cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(3)
Nid yw trwydded gwasanaeth bysiau lleol sydd wedi ei hatal dros dro o dan adran 16 yn cael unrhyw effaith yn ystod unrhyw gyfnod y mae’r ataliad dros dro yn cael effaith .