RHAN 2SWYDDOGAETHAU GWEINIDOGION CYMRU SY’N YMWNEUD Â GWASANAETHAU BYSIAU LLEOL

Contractau gwasanaeth bysiau lleol

10Contractau gwasanaeth bysiau lleol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, at ddibenion cyflawni eu dyletswydd o dan adran 5(1)(c) mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, ymrwymo i gytundeb o dan yr adran hon (y cyfeirir ato yn y Ddeddf hon fel “contract gwasanaeth bysiau lleol”) mewn perthynas â gwasanaeth.

(2)

Contract yw contract gwasanaeth bysiau lleol, mewn perthynas â gwasanaeth bysiau lleol, sy’n nodi telerau—

(a)

y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi’r hawl i berson o fewn is-adran (3) i weithredu’r gwasanaeth yn unol â hwy, a

(b)

y mae’r person hwnnw’n ymrwymo i ddarparu’r gwasanaeth yn unol â hwy.

(3)

Y personau o fewn yr is-adran hon yw—

(a)

person sy’n ddeiliad trwydded bysiau cymunedol;

(b)

person sy’n ddeiliad trwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus.

(4)

Yn achos contract gwasanaeth bysiau lleol yr ymrwymir iddo â pherson o fewn is-adran (3)(a) mewn perthynas â gwasanaeth sy’n wasanaeth bysiau cymunedol, rhaid i’r telerau a bennir yn y contract ei gwneud yn ofynnol—

(a)

i’r gwasanaeth o dan sylw gael ei ddarparu fel gwasanaeth bysiau cymunedol, a

(b)

i bob cerbyd a ddefnyddir wrth ddarparu’r gwasanaeth gael ei ddefnyddio felly o dan‍ drwydded bysiau cymunedol ac yn unol â thelerau trwydded bysiau cymunedol.

(5)

Nid yw’r cyfeiriad yn is-adran (3)(b) at drwydded gweithredwr cerbydau gwasanaeth cyhoeddus yn cynnwys—

(a)

trwydded y mae amod ynghlwm wrthi o dan adran 26(1A) o Ddeddf 1985 (pŵer comisiynydd traffig i roi amodau ynghlwm wrth drwyddedau) sy’n gwahardd y deiliad rhag defnyddio cerbydau o dan y drwydded i ddarparu gwasanaethau bysiau lleol o bob disgrifiad, neu o ddisgrifiad a bennir yn yr amod;

(b)

trwydded sydd wedi ei hatal dros dro o dan adran 17(2) o Ddeddf 1981 neu adran 28(2) o Ddeddf 1985.