RHAN 1CYSYNIADAU ALLWEDDOL AC AMCANION CYFFREDINOL
Cysyniadau allweddol
1Ystyr “gwasanaeth bysiau lleol”
(1)
At ddibenion y Ddeddf hon, gwasanaeth yw gwasanaeth bysiau lleol ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd, am daliadau teithio ar wahân, gan ddefnyddio un neu ragor o gerbydau gwasanaeth cyhoeddus, sydd—
(a)
yn bodloni’r amod yn is-adran (3), a
(b)
ag un neu ragor o fannau esgyn neu fannau disgyn yng Nghymru.
(2)
Ond nid yw cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at wasanaeth bysiau lleol yn cynnwys cyfeiriadau at—
(a)
gwasanaeth adran 19 (gweler adran 44(1) ynghylch hynny);
(b)
gwasanaeth Rhan 3 o Atodlen 1 (gweler adran 44(1) ynghylch hynny);
(c)
gwibdaith neu gylchdaith;
(d)
gwasanaeth yn lle trên.
(3)
Mae gwasanaeth yn bodloni’r amod yn yr is-adran hon os, yn achos pob un o’i fannau esgyn—
(a)
yw’r man disgyn nesaf o dan 15 milltir i ffwrdd (o fesur mewn llinell syth), a
(b)
nad oes unrhyw fan ar y llwybr rhwng y man esgyn hwnnw a’r man disgyn hwnnw sydd 15 milltir i ffwrdd, neu’n fwy na 15 milltir i ffwrdd, o’r naill neu’r llall ohonynt (o fesur mewn llinell syth).
(4)
At ddibenion yr adran hon—
(a)
mae i “cerbyd gwasanaeth cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public service vehicle” yn adran 1 o Ddeddf 1981;
(b)
mae i “gwibdaith neu gylchdaith” yr ystyr a roddir i “excursion or tour” yn adran 137(1) o Ddeddf 1985;
(c)
gwasanaeth yw “gwasanaeth yn lle trên” ar gyfer cludo teithwyr, yn lle gwasanaeth rheilffyrdd i deithwyr sydd wedi ei atal dros dro neu sydd wedi ei derfynu.
(5)
Pan fyddai rhan o wasanaeth anghymwys yn bodloni’r amod yn is-adran (3) pe bai’r rhan honno’n wasanaeth ynddo’i hun, mae’r rhan honno ei hun i’w thrin fel pe bai’n wasanaeth bysiau lleol at ddibenion y Ddeddf hon heblaw’r ddyletswydd yn adran 5(1)(a).
(6)
At ddibenion is-adran (5) gwasanaeth yw “gwasanaeth anghymwys” (heblaw un o fewn is-adran (2)) ar gyfer cludo teithwyr ar ffyrdd am daliadau teithio ar wahân, gan ddefnyddio un neu ragor o gerbydau gwasanaeth cyhoeddus, y mae ganddo un neu ragor o fannau esgyn neu fannau disgyn yng Nghymru, ond nad yw’n bodloni’r amod yn is-adran (3).
(7)
Mae is-adran (5)(b) ac (c) o adran 1 o Ddeddf 1981 (ystyr “fares”) yn gymwys mewn perthynas â “taliadau teithio” at ddibenion yr adran hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r term Saesneg cyfatebol “fares”.