Search Legislation

Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026

Newidiadau dros amser i: Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026

 Help about opening options

Alternative versions:

Statws

Mae'r fersiwn hon o'r hwn (hon) Act yn cynnwys darpariaethau sy'n rhagolygol. Help about Status

Close

Statws

Defnyddir y term darpariaeth i ddisgrifio elfen ddiffiniadwy mewn darn o ddeddfwriaeth sy'n cael effaith ddeddfwriaethol – megis Rhan, Pennod neu adran. Mae fersiwn o ddarpariaeth yn rhagolygol naill ai:

  1. os nad yw'r ddarpariaeth (Rhan, Pennod neu adran) erioed wedi dod i rym neu;
  2. pan fo testun y ddarpariaeth wedi'i newid, ond nad oes dyddiad wedi'i bennu eto gan y person neu'r corff priodol i'r newidiadau hynny i ddod i rym.

Gall Gorchmynion Cychwyn a restrir yn y blwch 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' fel rhai sydd heb eu gwneud eto ddod â'r fersiwn ragolygol hon i rym.

Newidiadau i ddeddfwriaeth:

Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026 yn gyfredol gyda’r holl newidiadau y gwyddys eu bod mewn grym ar neu cyn 12 Awst 2026. Mae newidiadau a all gael eu dwyn i rym yn y dyfodol. Mae newidiadau a wnaed yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt trwy anodiadau. Help about Changes to Legislation

Close

Changes to Legislation

Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Cofnodir newidiadau ac effeithiau gan ein tîm golygyddol mewn rhestrau sydd i'w gweld yn yr adran 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth'. Os nad yw'r effeithiau hynny wedi'u cymhwyso eto i destun y ddeddfwriaeth gan y tîm golygyddol maent hefyd wedi'u rhestru ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth yn y darpariaethau yr effeithir arnynt. Defnyddiwch y ddolen 'mwy' i agor y newidiadau a'r effeithiau sy'n berthnasol i'r ddarpariaeth rydych yn edrych arni.

View outstanding changes

Changes and effects yet to be applied to :

Legislation Crest

Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026

2026 dsc 11

Deddf gan Senedd Cymru i wahardd rasio milgwn yng Nghymru.

[27 Ebrill 2026]

Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

Rhagolygol

Gwahardd rasio milgwnLL+C

1Gwahardd rasio milgwnLL+C

(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw person—

(a)yn weithredwr stadiwm neu leoliad tebyg yng Nghymru a’i fod yn ei ddefnyddio, neu dan wybod iddo yn caniatáu iddo gael ei ddefnyddio, i rasio milgwn, neu

(b)ynghlwm wrth drefnu rasio milgwn—

(i)sy’n digwydd yng Nghymru, neu

(ii)y bwriedir iddo ddigwydd yng Nghymru.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan is-adran (1) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

2DehongliLL+C

Yn y Ddeddf hon—

(a)ystyr “rasio milgwn” yw cymell milgwn i redeg o amgylch trac ar ôl llith sydd wedi ei actifadu’n fecanyddol (ac mae hyn yn cynnwys amseru neu hyfforddi milgi wrth iddo redeg o amgylch trac);

(b)ystyr “gweithredwr” (mewn perthynas â stadiwm neu leoliad tebyg) yw—

(i)perchennog y stadiwm neu’r lleoliad;

(ii)y person, ac eithrio’r perchennog, sy’n bennaf gyfrifol am weithrediad y stadiwm neu’r lleoliad neu, os nad yw’r person hwnnw yn bresennol yn y Deyrnas Unedig, y person yn y Deyrnas Unedig sy’n gyfrifol am weithrediad y stadiwm neu’r lleoliad.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

3Troseddau gan gyrff corfforedig etc.LL+C

Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch troseddau o dan adran 1 a gyflawnir gan gyrff corfforedig, partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedig ac eithrio partneriaethau.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Rhagolygol

GorfodiLL+C

4Gorfodi’r gwaharddiad ar rasio milgwnLL+C

Mae Atodlen 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch gorfodi troseddau o dan adran 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

CyffredinolLL+C

Rhagolygol

5Adolygu ar ôl deddfuLL+C

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a’r cydymffurfedd â hi, a

(b)cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr adolygiad.

(2)Rhaid i’r adolygiad gael ei gwblhau cyn diwedd y cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y mae adran 1 yn dod i rym.

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

6Dod i rymLL+C

(1)Daw’r adran hon ac adran 7 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig, ond rhaid iddynt gael eu dwyn i rym ar ddiwrnod—

(a)nad yw cyn 1 Ebrill 2027, a

(b)nad yw ar ôl 1 Ebrill 2030.

Gwybodaeth Cychwyn

I6A. 6 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 6(1)

7Enw byrLL+C

Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—

(a)Deddf Gwahardd Rasio Milgwn (Cymru) 2026, neu

(b)the Prohibition of Greyhound Racing (Wales) Act 2026.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 7 mewn grym ar 28.4.2026, gweler a. 6(1)

Rhagolygol

(a gyflwynir gan adran 3)

ATODLEN 1LL+CTROSEDDAU GAN GYRFF CORFFOREDIG ETC.

Cyflawni troseddauLL+C

1(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni gan—

(a)corff corfforedig;

(b)partneriaeth;

(c)cymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth.

(2)Mae person a grybwyllir yn is-baragraff (3) hefyd yn cyflawni’r drosedd os profir bod y drosedd—

(a)wedi ei chyflawni gan y person hwnnw, neu wedi ei chyflawni â chydsyniad neu ymoddefiad y person hwnnw, neu

(b)i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran y person hwnnw.

(3)Y personau yw—

(a)mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall o’r corff corfforedig;

(b)mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;

(c)mewn perthynas â chymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth, unrhyw swyddog o’r gymdeithas neu unrhyw aelod o’i chorff llywodraethu.

(4)Yn is-baragraff (3)(a) ystyr “cyfarwyddwr” mewn perthynas â chorff corfforedig y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau yw aelod o’r corff corfforedig.

(5)Yn y Ddeddf hon, ystyr “partneriaeth” yw—

(a)partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39), neu

(b)partneriaeth gyfyngedig sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24).

Gwybodaeth Cychwyn

I8Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Achosion: partneriaethau a chymdeithasau anghorfforedigLL+C

2(1)Mae achos am drosedd o dan adran 1 yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i’w ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)Mae achos am drosedd o dan adran 1 yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gymdeithas anghorfforedig ac eithrio partneriaeth i’w ddwyn yn enw’r gymdeithas (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i haelodau).

(3)Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r gymdeithas anghorfforedig yn gorff corfforedig.

(4)Mae adran 33 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1925 (p. 86) ac Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gymdeithas anghorfforedig fel y maent yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I9Atod. 1 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

(a gyflwynir gan adran 4)

ATODLEN 2LL+CPWERAU GORFODI

DehongliLL+C

1Yn yr Atodlen hon—

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodir yn arolygydd at ddibenion y Ddeddf hon gan—

    (a)

    cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, neu

    (b)

    Gweinidogion Cymru;

  • mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys cerbyd, ac mae cyfeiriad at feddiannydd mangre sy’n gerbyd yn gyfeiriad at y person yr ymddengys ei fod yn gyfrifol am y cerbyd;

  • ystyr “pŵer mynediad” (“power of entry”) yw pŵer mynediad a roddir i arolygydd gan—

    (a)

    paragraff 2 (pŵer i fynd i fangreoedd ac eithrio anheddau), neu

    (b)

    gwarant o dan baragraff 3 (gwarant i fynd i annedd).

Gwybodaeth Cychwyn

I10Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Pŵer i fynd i fangreoedd ac eithrio anheddauLL+C

2(1)Caiff arolygydd fynd i unrhyw fangre os oes gan yr arolygydd seiliau rhesymol dros amau—

(a)bod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni yn y fangre, neu

(b)y gellir dod o hyd i dystiolaeth yn y fangre fod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni.

(2)Ond nid yw hyn yn gymwys mewn perthynas â mangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

Gwybodaeth Cychwyn

I11Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Gwarant i fynd i anneddLL+C

3(1)Ni chaniateir i arolygydd fynd i unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd oni bai—

(a)bod meddiannydd y fangre neu berson arall yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre yn cydsynio, neu

(b)bod ynad heddwch wedi dyroddi gwarant, ar gais arolygydd, yn awdurdodi’r arolygydd i fynd i’r fangre.

(2)Caiff ynad heddwch ddyroddi gwarant os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ar lw ysgrifenedig—

(a)bod seiliau rhesymol dros amau—

(i)bod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni yn y fangre, neu

(ii)y gellir dod o hyd i dystiolaeth yn y fangre fod trosedd o dan adran 1 yn cael ei chyflawni, wedi ei chyflawni neu ar fin cael ei chyflawni, a

(b)y cwrddir ag unrhyw un neu ragor o amodau 1, 2, 3 neu 4.

(3)Amod 1 yw bod—

(a)gofyn am fynd i’r fangre wedi ei wrthod neu’n debygol o gael ei wrthod, a

(b)hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i feddiannydd y fangre neu i berson yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre.

(4)Amod 2 yw y gallai gofyn am fynd i’r fangre neu roi hysbysiad o fwriad i wneud cais am warant o dan y paragraff hwn drechu diben mynd i’r fangre.

(5)Amod 3 yw bod y fangre heb ei meddiannu.

(6)Amod 4 yw—

(a)bod meddiannydd y fangre yn absennol dros dro, a

(b)y gallai aros i’r meddiannydd ddychwelyd drechu diben mynd i’r fangre.

Gwybodaeth Cychwyn

I12Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

4Mae gwarant a ddyroddir o dan baragraff 3—

(a)yn awdurdodi mynd i’r fangre unwaith;

(b)yn un y mae rhaid iddi gael ei gweithredu o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddir.

Gwybodaeth Cychwyn

I13Atod. 2 para. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Mynd i fangreLL+C

5(1)Rhaid i arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad, ar gais person yn y fangre—

(a)dangos tystiolaeth o bwy yw’r arolygydd, a

(b)amlinellu diben arfer y pŵer.

(2)Pan fo arolygydd yn mynd i fangre o dan warant a ddyroddwyd o dan baragraff 3, rhaid i’r arolygydd hefyd—

(a)dangos copi o’r warant, os gofynnir iddo wneud hynny gan berson yn y fangre, a

(b)rhoi copi o’r warant i feddiannydd yr eiddo neu berson yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre os gofynnir iddo wneud hynny gan y person hwnnw.

(3)Os nad yw’r meddiannydd na pherson yr ymddengys i’r arolygydd ei fod yn gyfrifol am y fangre yn bresennol—

(a)rhaid i’r arolygydd adael copi o’r warant mewn man amlwg yn y fangre, a

(b)wrth adael y fangre, rhaid i’r arolygydd ei gadael wedi ei diogelu rhag mynediad anawdurdodedig yr un mor effeithiol ag y’i cafwyd gan yr arolygydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I14Atod. 2 para. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

6Rhaid i arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad wneud hynny ar adeg resymol oni fydd yn ymddangos i’r arolygydd y byddai diben cael mynediad wedi ei lesteirio gan fynediad ar adeg resymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I15Atod. 2 para. 6 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

7Caiff arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad ddefnyddio grym rhesymol i fynd i’r fangre os yw’n angenrheidiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I16Atod. 2 para. 7 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

8Caiff arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad—

(a)mynd ag unrhyw bersonau eraill i’r fangre yr ymddengys i’r arolygydd ei bod yn briodol mynd â hwy, a

(b)mynd ag unrhyw gyfarpar a deunyddiau i’r fangre yr ymddengys i’r arolygydd ei bod yn briodol mynd â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I17Atod. 2 para. 8 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Pwerau arolygu etc.LL+C

9Caiff arolygydd sy’n arfer pŵer mynediad—

(a)chwilio’r fangre;

(b)holi unrhyw berson yn y fangre;

(c)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre roi cymorth i’r arolygydd y gall fod yn rhesymol ofynnol gan yr arolygydd;

(d)tynnu ffotograff neu wneud fideo o unrhyw beth y deuir o hyd iddo yn y fangre;

(e)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson yn y fangre ddangos unrhyw ddogfen neu gofnod ym mha ffurf bynnag y’i delir sydd ym meddiant neu o dan reolaeth y person;

(f)cymryd copïau o unrhyw ddogfen neu gofnod, neu gymryd darnau o unrhyw ddogfen neu gofnod, y deuir o hyd iddi neu iddo ar ba ffurf bynnag y’i delir;

(g)ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth a gedwir ar ffurf electronig ac y gellir cael gafael arni o’r fangre gael ei chyflwyno ar ffurf y gellir mynd â hi ymaith ac sydd yn ei gwneud yn weladwy ac yn ddarllenadwy, neu y gellir ei chyflwyno ar ffurf weladwy a darllenadwy yn hawdd ohoni;

(h)ymafael yn unrhyw eitem, ac eithrio ci, y deuir o hyd iddi yn y fangre ac y mae’r arolygydd yn credu’n rhesymol sy’n dystiolaeth o gyflawni trosedd o dan adran 1.

Gwybodaeth Cychwyn

I18Atod. 2 para. 9 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

10Caiff person yr eir ag ef i’r fangre o dan baragraff 8(a) arfer unrhyw bŵer a roddir i arolygydd gan baragraff 9 os yw’r person o dan oruchwyliaeth yr arolygydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I19Atod. 2 para. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Pŵer ymafael: atodolLL+C

11(1)Caniateir cadw unrhyw eitem yr ymafaelir ynddi o dan baragraff 9(h) am gyhyd ag y bo angen.

(2)Rhaid i berson sy’n ymafael yn unrhyw beth o dan baragraff 9(h)—

(a)cadw cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi, a

(b)darparu cofnod o’r eitem yr ymafaelwyd ynddi os gofynnir iddo wneud hynny gan berson a oedd yn meddiannu’r fangre ar yr adeg yr ymafaelwyd yn yr eitem, neu a oedd â’r eitem yn ei feddiant neu o dan ei reolaeth yn union cyn yr ymafaelwyd ynddi.

(3)Nid yw paragraff 9(h) yn cynnwys pŵer i ymafael yn unrhyw eitem y gellid cynnal hawliad am fraint broffesiynol gyfreithiol yn ei chylch mewn achosion cyfreithiol.

Gwybodaeth Cychwyn

I20Atod. 2 para. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Rhwystro etc.LL+C

12(1)Mae person yn cyflawni trosedd—

(a)os yw’r person heb esgus rhesymol yn methu â chydymffurfio â gofyniad am gymorth a wneir yn rhesymol o dan baragraff 9(c);

(b)os yw’r person yn rhwystro yn fwriadol berson arall wrth iddo arfer swyddogaeth o dan yr Atodlen hon.

(2)Mae person sy’n euog o drosedd o dan y paragraff hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I21Atod. 2 para. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Atebolrwydd arolygwyrLL+C

13(1)Nid yw arolygydd yn atebol mewn unrhyw achos sifil neu droseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni cyflawni swyddogaethau’r arolygydd o dan yr Atodlen hon os yw’r llys wedi ei fodloni y cyflawnwyd y weithred yn ddidwyll a bod seiliau rhesymol dros ei chyflawni.

(2)Mae is-baragraff (1) yn gymwys i unrhyw berson y mae arolygydd yn mynd ag ef i fangre o dan baragraff 8(a) fel y mae’n gymwys i arolygydd os yw’r person o dan oruchwyliaeth yr arolygydd.

Gwybodaeth Cychwyn

I22Atod. 2 para. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 6(2)

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

See additional information alongside the content

Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.

Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

Timeline of Changes

This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.

Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources