Cyffredinol

6Dod i rym

(1)

Daw’r adran hon ac adran 7 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.

(2)

Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol Cymreig, ond rhaid iddynt gael eu dwyn i rym ar ddiwrnod—

(a)

nad yw cyn 1 Ebrill 2027, a

(b)

nad yw ar ôl 1 Ebrill 2030.