RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR
PENNOD 1CYSYNIADAU ALLWEDDOL
Ffitrwydd mangre llety ymwelwyr
9Ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr: diogelwch tân
(1)
Y safon diogelwch tân, mewn perthynas ag unrhyw fangre lle y darperir (neu y cynigir) llety ymwelwyr rheoleiddiedig, yw bod y DLlY yn cynnal—
(a)
asesiad ysgrifenedig o’r risgiau y mae personau yn y fangre yn agored iddynt at ddiben nodi’r rhagofalon tân cyffredinol y mae angen i’r DLlY eu cymryd er mwyn sicrhau, i’r graddau y bo’n rhesymol ymarferol, ddiogelwch y personau hynny, a
(b)
cofnod o’r rhagofalon tân cyffredinol a nodwyd ac a gymerwyd yn unol â’r asesiad hwnnw.
(2)
At ddibenion is-adran (1)—
(a)
mae i “rhagofalon tân cyffredinol” yr un ystyr ag a roddir i “general fire precautions” yn erthygl 4 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541);
(b)
rhaid i’r DLlY gadw’r asesiad o dan adolygiad, a’i ddiweddaru fel y bo’n briodol, a rhaid i’r DLlY ddiweddaru’r asesiad—
(i)
pan fo newid sylweddol wedi bod yn unrhyw un neu ragor o’r materion y mae’n ymwneud â hwy, neu
(ii)
pan fo’r DLlY yn ymwybodol, neu y dylai fod yn ymwybodol, fod unrhyw reswm arall i ddiweddaru’r asesiad.