RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR

PENNOD 1CYSYNIADAU ALLWEDDOL

Ffitrwydd mangre llety ymwelwyr

6Ystyr ffitrwydd i fod yn llety ymwelwyr

(1)

At ddibenion y Ddeddf hon, mae mangre lle y darperir (neu y cynigir) llety ymwelwyr rheoleiddiedig yn ffit i fod yn llety ymwelwyr oni bai—

(a)

bod y safon gyffredinol o ran ffitrwydd a ddisgrifir yn adran 7 heb ei chyrraedd a bod y risg o niwed neu o golli amwynder oherwydd ei bod heb ei chyrraedd yn golygu nad yw’r fangre yn rhesymol addas i ymwelydd breswylio ynddi, neu

(b)

i’r graddau y maent yn gymwys mewn cysylltiad â’r fangre, bod unrhyw un neu ragor o’r safonau ffitrwydd penodol y cyfeirir atynt yn adran 8 heb ei chyrraedd neu heb eu cyrraedd.

(2)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—

(a)

diwygio’r safon gyffredinol o ran ffitrwydd a ddisgrifir yn adran 7, a

(b)

diwygio, ychwanegu at neu hepgor unrhyw un neu ragor o’r safonau ffitrwydd penodol a restrir yn adran 8.

(3)

Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.

(4)

At ddibenion yr adran ho‍n, adrannau 7 i 13 a Phennod 3, mae cyfeiriad at “y fangre”—

(a)

mewn perthynas â llety ymwelwyr rheoleiddiedig a ddarperir mewn rhan o’r fangre, yn gyfeiriad at y rhan honno o’r fangre lle y darperir y llety hwnnw;

(b)

yn achos llety o ddisgrifiad a roddir yn adran 5(1)(a) (llety hunanddarpar rheoleiddiedig), yn cynnwys unrhyw ardal yn yr awyr agored, unrhyw garej neu unrhyw adeilad arall a ddarperir at ddefnydd yr ymwelydd a neb arall yn ystod y cyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety.