RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

PENNOD 1AMRYWIOL

Pŵer a throseddau sy’n ymwneud â darparu gwybodaeth

52Pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwybodaeth”) i berson a grybwyllir yn is-adran (2), yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth neu unrhyw ddogfen—

(a)

sydd o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad, a

(b)

y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n hwylus at ddibenion arfer eu swyddogaethau o dan Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny.

(2)

Y personau y caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad gwybodaeth iddynt yw—

(a)

person y mae trwydded llety ymwelwyr wedi ei rhoi iddo;

(b)

person y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried y gall fod yn darparu neu y gall fod yn cynnig darparu, neu y gall fod wedi darparu neu y gall fod wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr rheoleiddiedig;

(c)

person sy’n cynorthwyo (neu sydd wedi cynorthwyo) gyda darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig gan berson a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b), neu sy’n hwyluso (neu sydd wedi hwyluso) darparu llety ymwelwyr rheoleiddiedig gan berson o’r fath.

(3)

Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad gwybodaeth iddo, os oes gan y person fynediad at yr wybodaeth neu’r ddogfen o dan sylw, ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen—

(a)

ar y ffurf sy’n ofynnol, a

(b)

ar neu cyn—

(i)

y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, neu

(ii)

unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno gan y person a Gweinidogion Cymru.

(4)

Nid yw hysbysiad gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i berson ddarparu gwybodaeth neu ddogfen i Weinidogion Cymru os yw datgelu’r wybodaeth neu’r ddogfen honno wedi ei wahardd drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol arall.

(5)

Ni chaniateir i wybodaeth a roddir gan berson mewn ymateb i hysbysiad gwybodaeth gael ei defnyddio mewn achos troseddol yn erbyn y person hwnnw, ond nid yw hyn yn gymwys—

(a)

os yw’r achos am drosedd o dan adran 54 (darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol);

(b)

os yw’r achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder;

(c)

os, yn ystod yr achos, dygir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person, neu ar ei ran;

(d)

os, yn ystod yr achos, gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth gan y person, neu ar ei ran.

(6)

Rhaid i hysbysiad gwybodaeth gynnwys gwybodaeth am y canlyniadau o dan adran 53 o fethu â chydymffurfio â’r hysbysiad.