RHAN 3RHEOLEIDDIO LLETY YMWELWYR
PENNOD 1CYSYNIADAU ALLWEDDOL
Llety ymwelwyr rheoleiddiedig
5Ystyr llety ymwelwyr rheoleiddiedig
(1)
Yn y Ddeddf hon, ystyr “llety ymwelwyr rheoleiddiedig” yw llety ymwelwyr o’r disgrifiadau a ganlyn—
(a)
llety hunanddarpar sy’n hunangynhwysol, ac sydd mewn—
(i)
adeilad, neu
(ii)
cartref symudol, llestr neu gerbyd arall;
(b)
unrhyw ddisgrifiad arall o lety ymwelwyr a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.
(2)
Ond at ddibenion is-adran (1)(a), nid yw llety hunanddarpar sy’n hunangynhwysol yn llety ymwelwyr rheoleiddiedig—
(a)
os yw’n cael ei ddarparu mewn—
(i)
gwesty (gan gynnwys gwesty fflatiau), tŷ llety neu lety gwely a brecwast,
(ii)
hostel ieuenctid, byncws neu ysgubor gwersylla,
(iii)
safle gwersylla y mae adran 269 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936 (p. 49) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef, neu
(iv)
safle carafannau y mae Rhan 1 o Ddeddf Safleoedd Carafannau a Rheoli Datblygu 1960 (p. 62) yn gymwys mewn cysylltiad ag ef;
(b)
os yw’n cael ei ddarparu heblaw—
(i)
ar sail tymor byr, a
(ii)
at ddibenion teithio ar gyfer busnes neu hamdden neu ar gyfer tripiau addysgol;
(c)
yn achos llety mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall, os nad yw wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle.
(3)
At ddibenion is-adrannau (1) a (2), mae llety hunanddarpar yn “hunangynhwysol”—
(a)
os yw’n cynnwys—
(i)
un neu ragor o welyau ar gyfer cysgu,
(ii)
toiled, sinc, a bath neu gawod, a
(iii)
cegin neu ardal gegin, a
(b)
os, yn ystod unrhyw gyfnod pryd y mae gan yr ymwelydd hawlogaeth i breswylio yn y llety, darperir y cyfleusterau a ddisgrifir ym mharagraff (a) at ddefnydd yr ymwelydd a neb arall.
(4)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) bennu disgrifiad o lety ymwelwyr rheoleiddiedig, drwy gyfeiriad at—
(a)
(b)
(i)
y llety;
(ii)
y fangre lle y darperir y llety;
(iii)
y darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”);
(iv)
unrhyw ymwelydd y darperir y llety iddo;
(c)
unrhyw fater arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
(5)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) ddiwygio’r Ddeddf hon neu Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5) (ac mae’r cyfeiriad yn is-adran (1)(b) at “a ragnodir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau” yn cynnwys cyfeiriad at ddiwygiad a wneir gan y rheoliadau hynny).
(6)
Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol a rhoi cyfnod o 12 wythnos o leiaf i’r personau hynny i ymateb.
(7)
Yn y Ddeddf hon mae i’r termau a ganlyn yr ystyr a roddir yn y darpariaethau yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 5) a bennir isod, neu maent i’w darllen drwy gyfeirio at y darpariaethau hynny—
(a)
ystyr “llety ymwelwyr”—
(i)
yw llety, yng Nghymru, o ddisgrifiad a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno, ond
(ii)
nid yw’n cynnwys llety i’r graddau y mae’n dod o fewn adran 29(2)(b) o’r Ddeddf honno (llety a ddarperir o dan amgylchiadau penodol gan gyrff cyhoeddus);
(b)
ystyr “darparwr llety ymwelwyr” (neu “DLlY”) yw person sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf honno (cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr);
(c)
mae cyfeiriadau at “darparu” neu at “yn cynnig darparu” llety ymwelwyr i’w darllen yn unol ag adran 3(3) a (5)(a) o’r Ddeddf honno;
(d)
mae “mangre” i’w ddarllen yn unol ag adran 4(7)(b) o’r Ddeddf honno ond caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau, wneud darpariaeth bellach neu ddarpariaeth wahanol ynghylch ystyr y term o ran ei gymhwyso i’r Ddeddf hon, gan gynnwys i ddiwygio adran 6(4) neu unrhyw ddarpariaeth arall o’r Ddeddf hon;
(e)
mae “ar sail tymor byr” i’w ddarllen yn unol ag adran 2(3) o’r Ddeddf honno;
(f)
mewn perthynas â llety ymwelwyr, mae cyfeiriad at “ymwelydd” yn gyfeiriad at unigolyn sydd â hawlogaeth i breswylio yn y llety ymwelwyr am un neu ragor o nosweithiau, o dan gontract a ddisgrifir yn adran 3(3) o’r Ddeddf honno neu o ganlyniad i gontract o’r fath.