RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

PENNOD 1AMRYWIOL

Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennig

49Pŵer i wneud darpariaeth ynghylch marwolaeth, analluedd ac ansolfedd

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag achosion pan fo DLlY yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall, diddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu, neu ei diwygio fel arall.

(2)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—

(a)

ynglŷn â’r amgylchiadau pryd y mae DLlY yn mynd yn analluog neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bod yn analluog neu’n ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall;

(b)

sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y ceir caniatáu dilyniant yn narpariaeth llety ymwelwyr rheoleiddiedig (gweler Pennod 2 o Ran 3) ar sail interim neu dros dro, pan fo DLlY wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu wedi peidio â bodoli fel arall (gan gynnwys amgylchiadau pryd nad yw’r troseddau o dan adrannau 32 a 44 yn gymwys);

(c)

sy’n caniatáu trosglwyddo trwydded llety ymwelwyr, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—

(i)

sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y caniateir neu na chaniateir trosglwyddo trwydded llety ymwelwyr;

(ii)

sy’n rhagnodi gofynion y mae rhaid cydymffurfio â hwy cyn y caniateir trosglwyddo trwydded;

(iii)

sy’n rhagnodi amgylchiadau pryd y mae’n ofynnol cael cymeradwyaeth Gweinidogion Cymru i drosglwyddo trwydded;

(iv)

ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a dyfarnu arnynt;

(v)

ar gyfer codi ffioedd, ac mewn perthynas â hynny, mewn cysylltiad â throsglwyddo trwydded;

(d)

sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau;

(e)

sy’n gymwys pa un a yw unrhyw un arall yn cynnal busnes y DLlY ar ôl i’r DLlY farw, mynd yn analluog neu ddod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu beidio â bodoli fel arall, ai peidio;

(f)

ar gyfer—

(i)

trosedd o dan‍ Rannau 3 i 5 o’r Ddeddf hon, neu yn rhinwedd y Rhannau hynny, i beidio â bod yn gymwys;

(ii)

troseddau diannod y gellir eu cosbi drwy ddirwy mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;

(iii)

apelau.