RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
PENNOD 1AMRYWIOL
Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennig
48Atebolrwydd troseddol uwch-swyddogion etc.
(1)
Mae’r adran hon yn gymwys pan fo trosedd o dan y Ddeddf hon yn cael ei chyflawni gan—
(a)
corff corfforedig;
(b)
partneriaeth;
(c)
corff anghorfforedig.
(2)
Os profir bod y drosedd wedi ei chyflawni gan y canlynol, neu gyda chydsyniad neu ymoddefiad y canlynol, neu y gellir ei phriodoli i esgeulustod ar ran y canlynol—
(a)
un o uwch-swyddogion y corff corfforedig neu’r bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig, neu
(b)
unrhyw berson sy’n honni ei fod yn gweithredu mewn rhinwedd a grybwyllir ym mharagraff (a),
mae’r uwch-swyddog hwnnw neu’r person hwnnw (yn ogystal â’r corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig) yn euog o’r drosedd ac yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny.
(3)
Yn yr adran hon, ystyr “uwch-swyddog” yw—
(a)
mewn perthynas â chorff corfforedig, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i’r corff corfforedig;
(b)
mewn perthynas â phartneriaeth, partner yn y bartneriaeth;
(c)
mewn perthynas â chorff anghorfforedig—
(i)
aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd, neu unrhyw swydd debyg;
(ii)
aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff.
(4)
Yn is-adran (3)(a), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforedig y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforedig.