RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

PENNOD 1AMRYWIOL

Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennig

47Troseddau a gyflawnir gan bartneriaethau a chyrff anghorfforedig

(1)

Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan bartneriaeth i gael ei ddwyn yn enw’r bartneriaeth (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’r partneriaid).

(2)

Mae achos am drosedd o dan y Ddeddf hon yr honnir ei bod wedi ei chyflawni gan gorff anghorfforedig i gael ei ddwyn yn enw’r corff (ac nid yn enw unrhyw un neu ragor o’i aelodau).

(3)

Mae rheolau llys sy’n ymwneud â chyflwyno dogfennau yn cael effaith fel pe bai’r bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig yn gorff corfforedig.

(4)

Mae Atodlen 3 i Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980 (p. 43) yn gymwys mewn achos am drosedd a ddygir yn erbyn partneriaeth neu gorff anghorfforedig fel y mae yn gymwys mewn perthynas â chorff corfforedig.

(5)

Mae dirwy a osodir ar bartneriaeth ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o asedau’r bartneriaeth.

(6)

Mae dirwy a osodir ar gorff anghorfforedig ar ei euogfarn am drosedd o dan y Ddeddf hon i’w thalu o gronfeydd y corff.