RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL
PENNOD 1AMRYWIOL
Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennig
46Pŵer i wneud darpariaeth bellach ynghylch partneriaethau a chyrff anghorfforedig
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon mewn perthynas ag achosion pan fo personau yn cynnal busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, diddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu neu ei diwygio fel arall.