RHAN 5AMRYWIOL A CHYFFREDINOL

PENNOD 1AMRYWIOL

Cymhwyso’r Ddeddf i achosion arbennig

45Dyletswyddau ac atebolrwyddau partneriaethau a chyrff anghorfforedig

(1)

Pan fo unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud o dan y Ddeddf hon i gael ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(2)

Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt; ac os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, caniateir hefyd iddo gael ei wneud gan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y bartneriaeth.

(3)

Pan fo unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud o dan y Ddeddf hon i gael ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal busnes fel corff anghorfforedig, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.

(4)

Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob aelod rheoli o’r corff gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.

(5)

Mae atebolrwydd am dalu swm perthnasol o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn atebolrwydd ar y cyd ac unigol i bob person sy’n aelod o’r bartneriaeth neu’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.

(6)

At ddibenion yr adran hon—

(a)

aelodau rheoli corff anghorfforedig yw—

(i)

pob aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd, neu unrhyw swydd debyg;

(ii)

os nad oes unrhyw swydd o’r fath, pob aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff;

(iii)

os nad oes unrhyw swydd na phwyllgor o’r fath, pob aelod o’r corff;

(b)

ystyr “swm perthnasol” yw swm sy’n daladwy mewn perthynas â chael neu gadw trwydded llety ymwelwyr.