Rhagolygol
(1)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn adran 43(1).
(2)Mae person yn cyflawni trosedd os yw’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r gofyniad yn adran 43(3).
(3)Ond nid yw person yn cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) os oes gan y person hwnnw esgus rhesymol dros y methiant i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
(4)Heb gyfyngu ar gyffredinolrwydd is-adran (3), mae gan berson (“P”) esgus rhesymol—
(a)os cymerodd P bob cam rhesymol i gydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw;
(b)os nad oedd P yn gwybod, ac na ellid bod wedi disgwyl yn rhesymol iddo wybod, nad oedd P yn cydymffurfio â’r gofyniad o dan sylw.
(5)Mae person sy’n cyflawni trosedd o dan is-adran (1) neu (2) yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
(6)Pan fo gweithred neu anweithred yn drosedd o dan is-adrannau (1) a (2), mae person yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi o dan y naill neu’r llall o’r is-adrannau hynny, ond ni all gael ei gosbi fwy nag unwaith am yr un drosedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 44 mewn grym ar 4.3.2030, gweler a. 61(2)(b)